Mae Grŵp Llywio Blueteq Cymru Gyfan yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru; dylai unrhyw ddatblygiadau a awgrymir i ffurflen gael eu cyfeirio drwy aelod eich bwrdd iechyd i'w hystyried gan y Grŵp Llywio. Dylid trafod ymholiadau sy'n ymwneud â chwblhau ffurflen gyda'ch aelod o'r bwrdd iechyd i ddechrau ac yna adran dechnegol Blueteq os nad ydynt wedi'u datrys.