Rydym am i gleifion, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd ein helpu i wneud yn siŵr fod bobl yng Nghymru yn cael y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae angen aelodau lleyg ar ein pwyllgorau ac isgrwpiau i gynrychioli’r cyhoedd yn gyffredinol ac i fod yn llais ar ran cleifion a gofalwyr yng Nghymru. Edrychwch ar ein tudalen we ar gyfer aelodau lleyg sy'n dweud mwy wrthych am y rôl, beth sy'n gysylltiedig, a sut y gallwch gysylltu â ni i gael gwybod mwy.