Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwch gyfarfod AWMSG

Rydym yn cyfarfod ddeg gwaith y flwyddyn. Mae ein cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd a gall unrhyw un fynychu. Dewch draw ar y dydd a mewngofnodi wrth y drws.

Yn y cyfarfod byddwch yn ein clywed yn siarad am feddyginiaethau newydd a chanllawiau newydd ar ddefnyddio meddyginiaethau.

Weithiau byddwn yn cynnal rhan o’n cyfarfod arfarnu yn breifat. Gwneir hyn fel arfer oherwydd bod cyflwyniad a wnaed gan gwmni fferyllol yn cynnwys gwybodaeth sy’n fasnachol sensitif a chyfrinachol. Ni fydd aelodau’r cyhoedd yn gallu arsylwi ar y rhan honno o’n cyfarfod.

Gallwch weld pryd yr ydym yn cyfarfod, a darllen papurau ein cyfarfodydd, ar ein tudalen cyfarfodydd AWMSG.

Rydyn ni'n dweud mwy wrthych chi am rôl AWMSG a'i aelodau ar ein tudalen Amdanom ni.