Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Cymru Gyfan ar Gymhorthion Ymlyniad (ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft Canllawiau Cymru Gyfan ar Gymhorthion Ymlyniad a'r ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.

Nod y ddogfen Canllawiau Cymru Gyfan ar Gymhorthion Ymlyniad yw cefnogi dull sy'n canolbwyntio ar y person o nodi'r ymyrraeth ymlyniad fwyaf priodol trwy asesiad unigol cadarn. Dylai'r asesiad hwn bennu lefel y gefnogaeth sydd ei hangen, archwilio achosion sylfaenol diffyg ymlyniad bwriadol ac anfwriadol, ac arwain y broses o ddewis yr ymyrraeth fwyaf addas. Er bod Systemau Dosau wedi’u Monitro (MDSs) yn aml yn cael eu defnyddio fel opsiwn diofyn ac yn ddewis priodol mewn rhai sefyllfaoedd, nid dyma’r ateb mwyaf effeithiol na phriodol bob amser. Mae angen dull cyfannol, integredig i sicrhau bod unrhyw ymyrraeth yn cynrychioli addasiad rhesymol ac yn gynaliadwy o fewn capasiti gwasanaethau fferylliaeth gymunedol. Bydd dull gweithredu cydweithredol a chyfathrebu effeithiol rhwng cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn galluogi unigolion i dderbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, optimeiddio eu meddyginiaethau, a lleihau'r risg o niwed a derbyniadau sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau, y gellir eu hosgoi.

Mae'r ddogfen, y ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd gysylltiedig a'r ffurflen adborth ar gael isod.

Dyddiad cau: Dydd Iau 14 Mai 2026

All Wales guidance on adherence aids - Consultation draft (Saesneg yn unig) 316KB (PDF)
All Wales guidance on adherence aids - Equality and Health Impact Assessment form (Saesneg yn unig) 223KB (PDF)
All Wales guidance on adherence aids - Ffurflen adborth ymgynghoriad 37KB (.doc)
Dilynwch AWTTC: