Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw Cymru Gyfan ar ragnodi bwydydd di-glwten (ymgynghoriad)

Mae cynhyrchion heb glwten yn rhan hanfodol o'r driniaeth ar gyfer clefyd seliag neu ddermatitis herpetifformis.

Mae'r GIG yn darparu bwydydd heb glwten i gleifion sydd wedi cael diagnosis o glefyd seliag neu dermatitis herpetifformis, er mwyn annog cleifion i gadw at ddeiet heb glwten a helpu i atal problemau iechyd mwy cymhleth rhag datblygu.

Cafodd y ddogfen hon ei chyhoeddi’n wreiddiol yn 2013 a’i diweddaru ddiwethaf yn 2018; nod y diweddariad diweddaraf hwn yw adolygu cynnwys a chynllun y ddogfen i sicrhau ei bod yn dal i fod yn addas i’w defnyddio, ac hefyd i gynnwys cyfeiriad at y Cynllun Bwydydd Heb Glwten (GFFS) newydd sy’n seiliedig ar gardiau ac sydd bellach yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Nod y canllaw hwn yw cefnogi rhagnodwyr a gweithwyr proffesiynol gofal iechyd drwy ddarparu arweiniad ar:

  • gyfrifo gofynion misol o ran unedau bwyd heb glwten ar gyfer cleifion.
  • rhagnodi bwydydd heb glwten sydd wedi'u cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Ffiniol (ACBS), gan gynnwys canllawiau ar y mathau, y meintiau a'r unedau o fwydydd heb glwten a argymhellir ac y gellir eu rhagnodi.

Mae'r ddogfen a'r ffurflen EqHIA gysylltiedig a'r ffurflen adborth i'w gweld isod.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 14 Awst 2026

All Wales guide to prescribing gluten-free foods - Consultation draft (Saesneg yn unig) 209KB (PDF)
All Wales guide to prescribing gluten-free foods - Equality and Health Impact Assessment form (Saesneg yn unig) 134KB (PDF)
All Wales guide to prescribing gluten-free foods - Ffurflen adborth ymgynghoriad 37KB (.docx)
Dilynwch AWTTC: