Nod y prosiect hwn yw atal pob defnydd ar y nwy anesthetig desfflwran mewn ysbytai yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ei effaith gormodol ar yr amgylchedd, diffyg budd clinigol o’i gymharu â dewisiadau eraill sydd ar gael yn fwy diweddar, a chost uchel.
Nwy anesthetig yw desfflwran sydd ag ôl troed carbon uchel ac sy’n niweidiol i’r amgylchedd. Bydd rhoi’r gorau i ddefnyddio desfflwran yn helpu GIG Cymru i gyrraedd ei darged sero net erbyn 2030, ac mae’n unol â Chynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru. Ni fydd rhoi’r gorau i ddefnyddio desfflwran yn peri anfantais sylweddol i gleifion oherwydd bod dewisiadau eraill ar gael: nwyon anesthetig eraill ag ôl troed carbon is sy’n gweithio cystal.
⇩ Withdrawal of national desflurane contract in Wales (Saesneg yn unig) 254KB (PDF) |
(Rhagfyr 2023)