Chwefror 2023: Wrth symud tuag at adolygu Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol bob tair blynedd, mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cytuno y bydd y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol y cytunwyd arnynt ar gyfer 2022-2023 yn cael eu hymestyn am ddwy flynedd ychwanegol ac yn dod yn Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol ar gyfer 2022-2025. Bydd y ddogfen Manylebau NPI sy'n amlinellu trothwyon a thargedau ar gyfer y dangosyddion yn parhau i gael ei diweddaru bob blwyddyn a bydd ar gael isod. |
Mae dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol yn dangos sut y mae’r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn presgripsiynu meddyginiaethau penodol, ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau presgripsiynu.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, presgripsiynu rhesymegol yw sicrhau bod cleifion yn derbyn y meddyginiaethau cywir ar eu cyfer, y dosau cywir am yr amser cywir, ac am y gost isaf i gleifion a’u cymuned.
Datblygir dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol i hyrwyddo presgripsiynu meddyginiaethau rhesymegol yng Nghymru. Mae’r dewis o ddangosyddion yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dangosyddion wedi’u cynllunio i fod yn glir ac yn hawdd i bresgripsiynwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu deall.
Mae’r dangosyddion yn caniatáu i fyrddau iechyd, clystyrau gofal sylfaenol, practisau meddygon teulu a presgripsiynwyr gymharu eu harfer presgripsiynu presennol yn erbyn safon ansawdd a gytunir.
Ar gyfer 2022-2025, mae’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol: Cefnogi Presgripsiynu Diogel wedi’i Optimeiddio yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol:
Cefnogir y pedwar maes blaenoriaeth hyn gan ddangosyddion ychwanegol:
⇩ National Prescribing Indicators 2022–2025: Supporting Safe and Optimised Prescribing 2,696KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Cyhoeddwyd Ionawr 2022 - Diweddarwyd Awst 2024)
Adnoddau cysylltiedig:
⇩ National Prescribing Indicators 2024–2025: Specifications 669KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Cyhoeddwyd Gorffennaf 2024)
⇩ National Prescribing Indicators 2022–2025: Supporting Information for Prescribers and Healthcare Professionals 465KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Cyhoeddwyd Chwerfror 2022 - Diweddarwyd Awst 2024)
⇩ Appendix – Anticholinergic effect on cognition score 21KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Cyhoeddwyd Ionawr 2022)
Mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) ar gyfer 2022-2025 yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth a gefnogir gan barthau diogelwch ac effeithlonrwydd ychwanegol.
Bob chwarter blwyddyn llunnir adroddiad yn dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs.