Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad presgripsiynu gofal sylfaenol - meddyginiaethau a ddefnyddir mewn diabetes (Wedi'i dynnu'n ôl)

Paratowyd y ddogfen hon gan Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU) i roi dadansoddiad manwl o bresgripsiynu maes therapiwtig diabetes ar lefel cenedlaethol, bwrdd iechyd a chlystyrau meddygon teulu.

Mae'r adroddiad hefyd yn ymgorffori cymaryddion lefel clystyrau meddygon teulu, ffordd newydd o gyflwyno data presgripsiynu, sy'n caniatáu i arweinwyr presgripsiynu mewn clystyrau meddygon teulu a byrddau iechyd feincnodi data presgripsiynu yn erbyn y clystyrau meddygon teulu mwyaf tebyg o ran nifer achosion clefydau penodol a ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

 

Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

⇩ Primary care prescribing analysis - medicines used in diabetes 1,219KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Medi 2015)

(Wedi’i dynnu’n ôl - Ionawr 2025)

Dilynwch AWTTC: