Mae'r papur hwn yn rhoi dadansoddiad o bresgripsiynu gofal sylfaenol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer meddyginiaethau a chymysgeddau ym maes therapiwtig anadlol am y cyfnod Gorffennaf 2013 - Mehefin 2014. Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n benodol i Gymru a'i byrddau iechyd, a hefyd ddata ar gyfer Lloegr a Gogledd Ddwyrain Lloegr at ddibenion cymharu.
Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG. Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl. Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd. Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk. |
⇩ Respiratory Prescribing Analysis with Cluster Level Comparators 853KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Chwefror 2015)
(Wedi’i dynnu’n ôl - Ionawr 2025)