Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu dull arfaethedig ar gyfer datblygu cymaryddion grwpiau clwstwr, yn seiliedig ar debygrwydd economaidd-gymdeithasol a nifer yr achosion o afiechyd, fel y gellir meincnodi presgripsiynu. Defnyddir y maes therapiwtig anadlol hwn i ddangos y dull, oherwydd effaith salwch anadlol ar y boblogaeth, cost uchel presgripsiynu eitemau anadlol, newidiadau diweddar yn y sail dystiolaeth a'r potensial ar gyfer adolygiad presgripsiynu.
Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG. Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl. Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd. Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk. |
⇩ GP Cluster Level Comparators 736KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Hydref 2014)
(Wedi’i dynnu’n ôl - Ionawr 2025)