Mae Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru (WAPSU), uned ddadansoddol AWTTC, wedi datblygu dangosfwrdd er mwyn adrodd ar gynnydd mewn lleihau ôl-troed carbon anadlyddion a ddefnyddir ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru. Gwneir hyn i gynorthwyo i gyrraedd targed Cynllun Cyflawni Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru ar gyfer cynyddu’r defnydd o anadlyddion cynhesu byd-eang isel posibl i 80% o gyfanswm yr anadlyddion a ddyroddir erbyn 2025.
Gellir gweld y dangosfwrdd hwn fel rhan o’r Gweinydd ar gyfer Adrodd a Dadansoddi Gwybodaeth Presgripsiynu (SPIRA).
Cynhyrchir adroddiadau misol hefyd, a elwir yn ‘Mesur ôl troed carbon y defnydd o anadlyddion ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru’. Bwriad yr adroddiadau hyn yw rhoi trosolwg cryno o rai o’r metrigau allweddol a ddarperir o fewn dangosfwrdd SPIRA. Gellir gweld yr adroddiadau misol hyn isod: