Cyhoeddwyd polisi Cymru Gyfan ar gyfer Gweinyddu, Cofnodi, Adolygu, Storio a Gwaredu Meddyginiaethau (MARRS) am y tro cyntaf yn 2015 mewn ymateb i faterion ymarfer meddyginiaethau a nodwyd yn yr adroddiad Ymddiried mewn Gofal a gyhoeddwyd yn 2014. Mae'r polisi MARRS wedi'i ddiweddaru yn sicrhau bod ymarfer yn cyd-fynd â newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau rheoli meddyginiaethau. Mae’r ddogfen yn fframwaith o safonau y mae’n rhaid i weithwyr gofal iechyd, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru eu gweithredu drwy weithdrefnau lleol.
Mae’r polisi MARRS yn nodi’r safonau ymarfer gofynnol y mae’n rhaid eu mabwysiadu gan yr holl staff gofal iechyd sy’n ymwneud â gweinyddu (gan gynnwys cefnogi prosesau hunan-weinyddu cleifion/defnyddwyr gwasanaethau) cofnodi, adolygu, storio a gwaredu meddyginiaethau mewn sefydliadau gofal iechyd ledled Cymru. Mae’r polisi MARRS yn berthnasol i bob sefydliad sy’n darparu gofal iechyd y GIG ac annibynnol (fel byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, practisau cyffredinol ac ysbytai/clinigau preifat). Bydd gweithredu’r safonau hyn yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal o ansawdd uchel ac yn sicrhau diogelwch cleifion drwy gyflwyno cysondeb wrth reoli meddyginiaethau ar draws pob sector gofal iechyd yng Nghymru.
⇩ All Wales policy for Medicines Administration, Recording, Review, Storage and Disposal 228KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Ebrill 2024)