Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol ym mis Awst 2020, nod y canllaw hwn yw lleihau amrywiaeth wrth bresgripsiynu anadlyddion i reoli asthma ymhlith oedolion. Yn 2021, cafodd y canllaw hwn ei ddiweddaru i annog pobl i ystyried agenda datgarboneiddio GIG Cymru.
Mae angen rheoli cleifion ag asthma yn ôl difrifoldeb eu clefyd. Dylid trin pob claf ag asthma gyda corticosteroid a fewnanadlir ac mae'r arfer o ddefnyddio monotherapi broncoledydd byrhoedlog bellach wedi dyddio. Ymhlith y rhai sydd â symptomau a reolir yn dda, mae'r dulliau rheoli priodol yn cynnwys lleihau eu therapi. O ystyried y dystiolaeth sy'n cysylltu defnydd uchel o steroidau a fewnanadlir ag effeithiau andwyol difrifol posibl, yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu ymdrech ar y cyd i gynyddu diogelwch cleifion a lleihau'r dos o corticosteroidau a fewnanadlir, a ddefnyddir gan gleifion bob dydd wrth reoli eu hasthma. Yn ogystal â chael effaith sylweddol ar ddiogelwch cleifion, gall hyn hefyd sicrhau arbedion cost. Gall hyn, yn ei dro, hwyluso mynediad mwy amserol at therapïau newydd, cost uchel (e.e. asiantau biolegol) ymhlith y rhai sydd â chlefyd difrifol, gan sicrhau’r driniaeth orau posibl ar gyfer pob claf ag asthma.
Yn 2024, cafodd y canllaw ei ddiweddaru ymhellach i gynnwys ‘cynllun a ffefrir’ newydd ar gyfer asthma ysgafn, ac ychwanegwyd yr opsiwn i ddefnyddio rhai meddyginiaethau asthma mewn ffordd ddidrwydded (gyda dolenni at ganllawiau perthnasol ar feddyginiaethau didrwydded wedi’u hymgorffori). Bwriad y diweddariadau hyn oedd cysoni’r canllawiau ag argymhellion eraill a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Gofal a Chymdeithas Thorasig Prydain yn bwriadu cyhoeddi canllawiau asthma yn 2024. Bydd y canllaw Cymru Gyfan hwn yn cael ei adolygu yng ngoleuni cyhoeddi'r ddogfen honno.
⇩ All Wales Adult Asthma Management and Prescribing Guideline 3,756KB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Chwefror 2024, diweddarwyd Mawrth 2024)