Yn 2019, fel rhan o ymrwymiad a wnaed ynglŷn â’r cytundeb diwygio contractiol gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru (CPW), comisiynodd Llywodraeth Cymru Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) i gynnal adolygiad o symiau gweinyddu mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru, gyda’r diben o ystyried ymarferoldeb lleihau symiau presgripsiynau mewn gofal sylfaenol drwy wneud newidiadau ymarferol i drefniadau presgripsiynu a gweinyddu, gan gynnwys ystyried y bwlch rhwng presgripsiynau. Nod yr adolygiad hefyd oedd canfod a fyddai newidiadau o’r fath yn rhyddhau llawer o amser fferyllwyr i ddarparu gofal uniongyrchol i gleifion, a thrwy hynny gefnogi’r ystod gynyddol o wasanaethau clinigol y gellir eu cynnig gan fferyllwyr cymunedol. Ar ôl pwyso a mesur daeth yr adolygiad i’r casgliad y byddai o fudd i fferyllfeydd, meddygon teulu a chleifion pe bai’r bwlch rhwng presgripsiynau yn cael ei ymestyn.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa bresennol o ran bwlch rhwng presgripsiynau, ac yn nodi cyfres o argymhellion ar gynyddu bwlch rhwng presgripsiynau lle bo’n briodol.
⇩ All Wales guidance for prescribing intervals (Saesneg yn unig) 293KB (PDF) |
(Hydref 2022)