Canllawiau Cymru gyfan ar gyfer hyfforddiant ac addysg ym maes meddyginiaethau: ar gyfer gweithwyr cymorth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Datblygwyd y canllawiau hyn mewn cydweithrediad â phartneriaid ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer cynllunio a chyflwyno hyfforddiant er mwyn galluogi sefydliadau i adolygu a chryfhau eu trefniadau hyfforddi a hyrwyddo cefnogaeth ddiogel, gyson ac integredig gyda meddyginiaethau. Mae cefnogi pobl i ddefnyddio eu meddyginiaethau'n ddiogel ac yn effeithiol yn elfen allweddol o ofal o ansawdd uchel a'i nod yw gwella canlyniadau iechyd a lles wrth leihau'r risg o gamgymeriadau gyda meddyginiaeth a gwastraff meddyginiaethau y gellir ei osgoi.

Nod y canllawiau hyn yw sicrhau bod hyfforddiant meddyginiaethau i weithwyr cymorth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yn cyd-fynd ag arfer gorau, gan eu galluogi i ddarparu cymorth diogel ac effeithiol gyda meddyginiaethau sy'n briodol i'w rôl a'u lleoliad.

Mae'r ddogfen hon yn disodli'r All Wales guidance for health boards/trusts and social care providers in respect of medicines and care support workers.

⇩ All Wales guidance for medicines training and education: for support workers in health and social care 1,243KB (PDF) (Saesneg yn unig)

Cyhoeddwyd: Tachwedd 2026

Ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

All Wales guidance for medicines training and education: for support workers in health and social care EqHIA (Saesneg yn unig) 203KB (PDF) - Tachwedd 2026

Adnoddau cysylltiedig:

All Wales guidance to support integrated medicines management in community settings