Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i bresgripsiynu cynhyrchion heb glwten

Sylwch (Tachwedd 2024)

Mae AWTTC yn ymwybodol bod ‘Canllaw Cymru i Bresgripsiynu Cynhyrchion Heb Glwten’ wedi dyddio. Mae AWTTC hefyd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn adolygu’r model cyflenwi ar gyfer cynhyrchion heb glwten, felly nid oes unrhyw gynlluniau i ddiweddaru’r adnodd hwn nes bod yr adolygiad hwnnw wedi’i gwblhau.

Fodd bynnag, mae’r rhestr bresennol o gynhyrchion di-glwten y gellir eu rhagnodi yng Nghymru i’w gweld yn y Tariff Cyffuriau (Rhan XV – Rhestr A – Adran G).

Mae cynhyrchion heb glwten yn rhan hanfodol o’r driniaeth glinigol ar gyfer clefyd seliag. Nod Canllaw Cymru Gyfan i Bresgripsiynu Cynhyrchion Heb Glwten yw cefnogi meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i reoli cleifion sydd â chlefyd seliag, a chynorthwyo'r broses gwneud penderfyniadau mewn perthynas â phresgripsiynu bwydydd heb glwten cymeradwyedig Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Ffiniol (ACBS).

⇩ All Wales Guide to Prescribing Gluten-free Products 335KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Chwefror 2013 - Diweddarwyd Tachwedd 2018)

Dogfennau cysylltiedig :

Dilynwch AWTTC: