Datblygwyd Safonau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Adolygu Meddyginiaethau er mwyn rhoi dull strwythuredig ar gyfer adolygu meddyginiaethau ac maent yn feincnodau ar gyfer ansawdd, gyda’r nod o optimeiddio diogelwch cleifion ac arfer presgripsiynu. Rhagwelir y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynnal adolygiadau meddygol yn gweithio tuag at gyflawni’r safonau, a bydd y rhestr o’r gweithgareddau cysylltiedig a gynhwysir yn cynorthwyo adolygwyr i’w cyflawni.
Wrth gymeradwyo’r safonau fe wnaeth AWMSG gydnabod y pwysau aruthrol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd, ac awgrymodd gynnal rhaglen beilot o’r safonau er mwyn canfod unrhyw rwystrau a allai atal y safonau rhag cael eu cyflawni. Os hoffech gymryd rhan mewn rhaglen beilot naill ai nawr, neu yn y dyfodol, cysylltwch ag awttc@wales.nhs.uk .
⇩ Welsh National Standards for Medication Review (Saesneg yn unig) 558KB (PDF) |
⇩ Welsh National Standards for Medication Review - Brief Guide (Saesneg yn unig) 224KB (PDF) |
(Cyhoeddwyd Ionawr 2021 [Diweddarwyd Mehefin 2021])