12 Ebril 2024
Mae AWTTC yn hapus iawn i gyhoeddi bod Strategaeth pum mlynedd ddiweddaraf Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), sy’n nodi ei uchelgeisiau a’i nodau ar gyfer 2024 i 2029, wedi’i lansio a’i bod bellach ar gael i chi ei darllen.
Mae AWTTC wedi gweithio’n agos iawn gydag AWMSG i ddatblygu’r Strategaeth hon dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd bellach ar gael yn dilyn trafodaethau helaeth ag aelodau AWMSG ac ymgysylltu ag ystod eang o sefydliadau partner i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl Cymru ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.
Bydd AWMSG yn cydweithio â sefydliadau partner allweddol ar draws GIG Cymru fel y gallant weithio gyda'i gilydd tuag at gyflawni eu pedwar uchelgais: gwella canlyniadau i gleifion; sicrhau bod y meddyginiaethau iawn ar gael ar yr amser iawn; lleihau niwed sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau a gwella diogelwch; a gwneud y gorau o'r gwerth y mae'r GIG yn ei gyflawni o'i fuddsoddiadau mewn meddyginiaethau.
Nod y strategaeth yw gwneud cynnydd sylweddol mewn ystod eang o amcanion sydd wedi’u grwpio o dan wyth nod:
Rydym yn eich annog i ddarllen y ddogfen Strategaeth lawn am ragor o wybodaeth, a chysylltwch ag AWTTC@wales.nhs.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.