Lansio proses cyflenwi meddyginiaethau am ddim newydd i Gymru gyfan

Mae proses gyflenwi meddyginiaethau am ddim (FOC) newydd Cymru gyfan wedi'i lansio, gan gyflwyno dull wedi'i ddiweddaru a chydweithredol ar gyfer GIG Cymru.

Mae'r broses a'r canllawiau cysylltiedig wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru yn dilyn ymgynghoriad â chynrychiolwyr y diwydiant fferyllol a rhanddeiliaid GIG Cymru. Nod y newidiadau yw darparu dull clir, cyson a chydlynol o'r broses FOC ledled Cymru.

Mewn rhai amgylchiadau, lle nad yw cyngor asesu technoleg iechyd (HTA) ar gael eto, neu lle mae'n aros i gael ei gyhoeddi, efallai y bydd cwmnïau fferyllol am gynnig cytundeb cyflenwi meddyginiaeth FOC i GIG Cymru. Gall y cytundebau hyn alluogi cleifion a chlinigwyr i gael mynediad at feddyginiaeth benodol heb unrhyw gost.

Mae'r broses Cymru gyfan wedi'i diweddaru yn dwyn ynghyd arbenigedd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru – Uned Gwerth Meddyginiaethau (MVU), Grŵp Cynllun Trefniadau Masnachol Cymru (CASWG), byrddau iechyd GIG Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.

Mae nifer o newidiadau pwysig wedi cael eu cyflwyno, gan gynnwys:

  • Meini prawf cymhwysedd: gofynion wedi'u diweddaru ar gyfer meddyginiaethau i'w hystyried o dan y broses.
  • Proses ymgeisio: dull diwygiedig o gyflwyno a rheoli ceisiadau.
  • Llywodraethu: trefniadau cryfach ar gyfer adolygu a goruchwylio cytundebau.
  • Cyfathrebu: cyfathrebu cliriach rhwng y sefydliadau dan sylw.
  • Monitro: trefniadau wedi'u diweddaru ar gyfer monitro'r defnydd o feddyginiaethau FOC.

Mae'r canllawiau diweddaraf a manylion y broses ymgeisio ar gael ar wefan AWTTC: Proses rhad ac am ddim Cymru Gyfan