Neidio i'r prif gynnwy

Fideos bellach ar gael o gyfarfod diweddar y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG)

Cynhaliwyd cyfarfod rhithwir diweddaraf y Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) yn llwyddiannus ar 7 Chwefror 2023. Ffocws y cyfarfod hwn oedd fferylliaeth yn y gymuned ac mewn Ymarfer Cyffredinol ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau ar y canlynol:

  • Presgripsiynu rheolaidd mewn Ymarfer Cyffredinol (Rachel Brace, Fferyllydd Clinigol mewn Practis)
  • Beth sy’n newydd mewn fferylliaeth gymunedol? (Kayleigh Williams, Fferylliaeth Gymunedol Cymru)

Mae fideos o'r cyflwyniadau ar gael nawr i chi eu gwylio a hoffai AWTTC ddiolch i Rachel a Kayleigh am gyflwyniadau mor ddiddorol ac addysgiadol.

Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau o’r cyhoedd. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar-lein ar 20 Ebrill – bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys rhaglen a ffurflen gofrestru ar-lein, ar gael ar ein tudalen we cyfarfodydd PAPIG ychydig wythnosau cyn y cyfarfod.

Dilynwch AWTTC: