Neidio i'r prif gynnwy

Fideos bellach ar gael o gyfarfod diweddar y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG)

Cynhaliwyd cyfarfod rhithwir diweddaraf y Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) yn llwyddiannus ar 21 Hydref 2022. Ffocws y cyfarfod hwn oedd effaith amgylcheddol meddyginiaethau ac roedd yn cynnwys sgyrsiau ar:

  • Sut mae AWTTC/AWMSG yn cefnogi’r agenda cynaliadwyedd meddyginiaethau
  • Ailgylchu anadlyddion mewn fferylliaeth gymunedol (Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)
  • Safbwynt y diwydiant fferyllol ar gynaliadwyedd mewn perthynas â meddyginiaethau (Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain)
  • Safbwyntiau cleifion ar gynaliadwyedd (Asthma and Lung UK)

Ymhlith y sgyrsiau eraill, roedd:

  • Diweddariad ar Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru
  • Cyflwyniad i Wasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol y DU am Wenwynau ac Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru

Mae fideos o bob un o’r cyflwyniadau ar gael nawr i chi eu gwylio a hoffai AWTTC ddiolch i’r holl gyflwynwyr am sgyrsiau mor ddiddorol ac addysgiadol.

Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau o’r cyhoedd. Mae dyddiadau dros dro cyfarfodydd PAPIG ar gyfer 2023 ar gael ar ein tudalen we cyfarfodydd PAPIG.

Dilynwch AWTTC: