Roedd Diwrnod Arfer Gorau blynyddol AWTTC yn ddiwrnod llawn gwybodaeth arall, digwyddiad sy'n hwyluso rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau gwelliannau mewn arferion rhagnodi yng Nghymru.
Mynychodd mwy na 80 o gynrychiolwyr y digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Gorffennaf gan gynnwys fferyllwyr, technegwyr fferyllfa, nyrsys, ffisiotherapyddion, meddygon a deintyddion o bob cwr o Gymru.
Gwnaeth Dr Laurence Grey, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Bresgripsiynu, agor y diwrnod ac amlinellu’r rhaglen, a oedd yn cynnwys pum cyflwyniad yn ystod y bore a sesiynau trafod yn y prynhawn a gynhaliwyd gan bob un o Fyrddau Iechyd Cymru.
Y cyntaf i gyflwyno oedd Rhys Howell, Fferyllydd Uwch — Llywodraethu, Gwella a Thrawsnewid yn BIP Bae Abertawe a roddodd sgwrs ar Ffocws ar y Dangosyddion Rhagnodi Cenedlaethol Analgesig.
Y pwnc nesaf ar yr agenda oedd Datblygu'r Rhaglen Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd Ddeintyddol yn BIP Betsi Cadwaladr dan arweiniad Clara Tam, Fferyllydd Gwrthficrobaidd Arweiniol, BIP Betsi Cadwaladr a Katherine Mills, Deintydd, Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddiant Craidd Deintyddol AaGIC (Gogledd Cymru), Addysgwr Deintyddol Rhanbarthol.
Siaradodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol Fferylliaeth Gymunedol BIP Betsi Cadwaladr am yr Ymateb i’r Ymchwydd yn y Galw am Wrthfiotigau i drin Strep Grŵp A yng Nghymru, pwnc o ddiddordeb mawr ar ôl yr achosion yng Ngaeaf 2022.
Ein siaradwr nesaf oedd Dr Owen Seddon, Meddyg Ymgynghorol Clefydau Heintus yn BIP Caerdydd a’r Fro a wnaeth drafod Therapi Gwrthfiotigau Parenterol Cleifion Allanol (OPAT): Yn dda neu’n wael i Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd?
Yn ofal, gwnaeth Sheridan Court, Fferyllydd Arweiniol Clinigol ar gyfer gwasanaethau Pobl Hŷn yn Ysbyty Treforys, BIP Bae Abertawe a Harriet Price, Fferyllydd Arweiniol ar gyfer Pobl Hŷn yn BIP Bae Abertawe roi cyflwyniad ar Amlgyffuriaeth mewn pobl hŷn: canllaw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Parhaodd rhai sgyrsiau gwych yn ystod yr egwyl a'r cinio wrth i ni gael cwmni Canolfan Cerdyn Melyn Cymru, Uned Genedlaethol Gwybodaeth Gwenwynau Cymru a'r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol ynghyd â'n cydweithwyr ymchwil a data.
Ar ôl cinio cynhaliodd pob un o'r saith bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre sesiynau trafod a alluogodd y cynrychiolwyr i gymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch thema benodol.
Roedd y pynciau’n cynnwys:
Mae cyflwyniadau o'r diwrnod ar gael yma.
Daeth Dr Laurence Gray, Cadeirydd AWPAG â'r diwrnod llawn gwybodaeth i ben a diolchodd i bawb am rannu eu profiadau y mae'n gobeithio y byddant yn cyflymu’r dysgu i bawb dan sylw.
Mae AWTTC yn edrych ymlaen at gynnal y Diwrnod Arfer Gorau nesaf yn 2024. Cadwch lygad ar ein gwefan a Twitter (@AWTTCcomms) am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau ymgysylltu.