Neidio i'r prif gynnwy

Cymeradwyo cyngor ar ddwy feddyginiaeth a aseswyd drwy broses Meddyginiaethau Cymru'n Un

Mae Prif Weithredwyr Byrddau Iechyd yng Nghymru wedi cymeradwyo cyngor ar ddwy feddyginiaeth, sef vonicog alfa (Veyvondi®) ac abiraterone, ar ôl eu hasesu drwy broses Meddyginiaethau Cymru'n Un.

Gellir defnyddio vonicog alfa (Veyvondi®) ar gyfer trin achosion o waedu heb lawdriniaeth a gyda llawdriniaeth ymhlith plant hyd at 17 oed sydd â chlefyd von Willebrand difrifol (VWD). Ar hyn o bryd mae vonicog alfa (Veyvondi) ond wedi'i drwyddedu i'w defnyddio gan bobl â VWD sy’n 18 oed ac yn hŷn, felly dim ond oedolion sydd wedi gallu ei ddefnyddio’n rheolaidd fel triniaeth yn GIG Cymru. Ar ôl adolygu'r adroddiad tystiolaeth cryno (ESR) a luniwyd gan AWTTC, mae Grŵp Cynghori Cymru’n Un ar Feddyginiaethau (OWMAG) wedi argymell y dylai vonicog alfa hefyd fod ar gael i'w ddefnyddio ymhlith plant fel dewis arall ar gyfer triniaethau von Willebrand factor (VWF) sy’n deillio o blasma.

Gellir defnyddio abiraterone, a roddir ar y cyd â prednisolone, o fewn GIG Cymru i drin canser y prostad nad yw’n fetastatig, sydd wedi datblygu’n lleol, â risg uchel, ac sy'n sensitif i hormonau. Ystyriodd OWMAG fod y dystiolaeth a ddarparwyd yn yr ESR yn ddigon i argymell ei ddefnydd all-drwydded ar gyfer y grŵp hwn o gleifion, ac y gallai gynnig dewis arall yn lle opsiynau cemotherapi cyfredol.

Mae'r defnydd o vonicog alfa ac abiraterone ymhlith y grwpiau cleifion a ystyrir yn ddidrwydded. Atgoffir rhagnodwyr y dylid nodi'r risgiau a'r buddion ar gyfer pob meddyginiaeth yn glir a'u trafod gyda chleifion neu eu gofalwyr er mwyn eu galluogi i roi caniatâd gwybodus, a dylai rhagnodwyr edrych ar y canllawiau ar ragnodi meddyginiaethau heb drwydded.

Bydd AWTTC yn adolygu'r cyngor ar gyfer pob meddyginiaeth ar ôl 12 mis neu'n gynharach os bydd tystiolaeth newydd ar gael.

Mae mwy o wybodaeth am broses Meddyginiaethau Cymru'n Un, gan gynnwys fideo newydd yn egluro sut mae'r broses yn gweithio ar gael yn https://cttcg.gig.cymru/cymrun-un/

Dilynwch AWTTC: