Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol AWMSG 2022–2023

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2022–2023.

Dathlodd AWMSG garreg filltir fawr yn 2022, gan nodi ei 20fed pen-blwydd gyda chynhadledd yn tynnu sylw at ei waith dros y ddau ddegawd diwethaf. Ers 2002, mae AWMSG wedi arfarnu mwy na 420 o feddyginiaethau ac wedi argymell dros 375 ohonynt, ac wedi cyhoeddi tua 790 o ddarnau o gyngor.

Yn yr adroddiad blynyddol diweddaraf, gallwch ddarllen mwy am yr holl brosiectau y mae AWMSG wedi bod yn gweithio arnynt drwy gydol 2022–2023.

Roedd yr allbynnau o naw cyfarfod AWMSG a gynhaliwyd yn ystod 2022-2023 yn cynnwys:

  • 17 o feddyginiaethau wedi’u harfarnu a phob un o'r 17 wedi'u hargymell
  • 8 cyhoeddiad optimeiddio meddyginiaethau wedi’u cyhoeddi
  • 14 o ddangosyddion presgripsiynu cenedlaethol wedi’u monitro drwy gydol y flwyddyn
  • 3 o Gynlluniau Mynediad i Gleifion Cymru wedi’u prosesu.

Mae’r adroddiad yn egluro pwysigrwydd cynnwys cleifion a’r cyhoedd yng ngwaith AWMSG, sut mae llais y claf yn cael ei glywed, a sut y gall pobl gymryd rhan.

Mae AWMSG yn cydnabod cefnogaeth byrddau iechyd yng Nghymru i ganiatáu i staff wasanaethu fel aelodau pwyllgor, a chefnogaeth yr holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gydag AWTTC i ddatblygu canllawiau arfer gorau neu gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac arfarniadau meddyginiaeth.

Mae’r adroddiad blynyddol yn disgrifio’r berthynas rhwng AWMSG a’r diwydiant fferyllol, sydd ill dau yn rhannu nod cyffredin o wella canlyniadau iechyd i gleifion.

Dywedodd yr Athro Iolo Doull, Cadeirydd AWMSG: “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r GIG yng Nghymru wedi wynebu pwysau digynsail. Gellir dadlau bod yr angen am gyngor arbenigol annibynnol ar feddyginiaethau i alluogi pobl i gael y canlyniadau iechyd gorau posibl erioed wedi bod yn fwy.

“Roedd sicrhau bod GIG Cymru yn cael y gwerth gorau o’i fuddsoddiad mewn meddyginiaethau yn dasg anodd ond hefyd yn un bwysig, gyda mwy o bobl yn cymryd mwy o feddyginiaethau.

“Er gwaethaf yr heriau hyn, parhaodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan â’i rôl o gynghori Llywodraeth Cymru ar y defnydd gorau o feddyginiaethau, a chydweithio â phartneriaid allweddol.”

Lluniwyd adroddiad blynyddol AWMSG gan AWTTC. Gallwch ddarllen adroddiad blynyddol llawn AWMSG 2022–2023 yma.

Darllenwch rifynnau blaenorol o adroddiad blynyddol AWMSG.

Dilynwch AWTTC: