Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod y Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) – 27 Chwefror 2024

22 Mawrth 2024

Diabetes Math 2 oedd testun cyfarfod cyntaf ein Grŵp er budd Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) yn 2024.

Cawsom siaradwyr gwych ar gyfer y cyfarfod rhithwir sy'n arbenigwyr yn eu maes ac a drafododd ystod o bynciau yn ymwneud â'r cyflwr.

Cawsom siaradwyr gwych ar gyfer y cyfarfod rhithwir, sy’n arbenigwyr yn eu maes, a thrafodwyd ystod o bynciau yn ymwneud â’r cyflwr.

Cyn i’r drafodaeth gychwyn, rhoddodd Ruth Lang, Uwch Reolwr Cyswllt AWTTC, grynodeb o’r gwaith y mae AWTTC wedi bod yn ei wneud ers cyfarfod diwethaf PAPIG ym mis Hydref.

Cadeirydd PAPIG yw Dr Clare Elliott, Uwch Wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, a bu’n gyfrifol am arwain y cyfarfod a chyflwyno pob siaradwr.

Roedd y pynciau’n cynnwys atal a lleddfu diabetes math 2, a ddarparwyd gan Cath Washbrook-Davies, Arweinydd Deieteg Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes ac Arweinydd Deieteg ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, a rhoddodd gyflwyniad manwl ar y gwaith sy’n digwydd ledled Cymru i gefnogi pobl sy’n byw gyda diabetes.

Rhoddodd y Meddyg Teulu, Dr Sarah Davies, Arweinydd Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol, gyflwyniad ar ddull cyfannol o reoli diabetes math 2, a chafwyd sgwrs angerddol a manwl ar nodi, rheoli a thriniaethau.

Esboniwyd y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes gan Susan Marszalek, Rheolwr Prosiect ar gyfer y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes, a sut mae’n bwriadu gwella gofal a chanlyniadau i bobl yng Nghymru sy’n byw gyda diabetes.

Yn olaf, ond yn llawn cyn bwysiced, bu Rob Lee, Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetig Cymru Gyfan, yn rhannu safbwynt claf fel rhywun sy’n byw gyda diabetes a siaradodd am bwysigrwydd cynnwys cleifion mewn strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â diabetes yng Nghymru.

Mae fideos o’r cyflwyniadau bellach ar gael i’w gwylio yma.

Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau o’r cyhoedd.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar-lein ar 22 Mai 2024 – bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys rhaglen a ffurflen gofrestru ar-lein, ar gael ar ein tudalen we cyfarfodydd PAPIG ychydig wythnosau cyn y cyfarfod.

Dilynwch AWTTC: