Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol IPFR 2022-2023

24 Tachwedd 2023

Mae’n bleser gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) gyhoeddi adroddiad blynyddol Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) ar gyfer 2022 – 2023. Mae’r adroddiad, a luniwyd gan AWTTC, yn cynnwys gwaith y timau IPFR ar draws Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ar gyfer cleifion yng Nghymru. Mae timau IPFR ledled Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gleifion gyda phroses amserol a chyson.

Amlygir y canlynol yn yr adroddiad:

  • Cafodd cyfanswm o 335 o geisiadau IPFR eu hystyried gan baneli ledled Cymru, cynnydd o 6% ar y flwyddyn flaenorol. Ceisiadau am feddyginiaethau ac anfeddyginiaethau oedd yn gyfrifol am y cynnydd hwn.
  • Cynhaliwyd y gweithdy IPFR yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Chwefror 2023. Daeth nifer dda i’r digwyddiad a chafwyd adborth cadarnhaol iawn ar yr amrywiaeth o sgyrsiau a sesiynau a ddarparwyd.
  • Cynhaliodd AWTTC ymgyrch recriwtio i hyrwyddo aelodaeth lleyg ar gyfer paneli IPFR. Cafodd saith aelod newydd o’r panel eu recriwtio a'u hyfforddi gan gynnwys un aelod lleyg newydd.

Adroddir hefyd am weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth IPFR. Parhaodd y grŵp Sicrhau Ansawdd IPFR  i gyfarfod bob chwarter i asesu un IPFR a ddewiswyd ar hap ar gyfer pob panel er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â meini prawf Polisi Cymru Gyfan. Yn 2022-2023 roedd dros 90% o’r IPFRs a adolygwyd gan y grŵp Sicrhau Ansawdd yn bodloni’r meini prawf hyn, mae’r grŵp yn hyderus bod timau IPFR ledled Cymru yn darparu gwasanaeth amserol, effeithlon sydd wedi’i ddogfennu’n dda.

Aseswyd wyth meddyginiaeth/cyfuniad o feddyginiaethau drwy broses Meddyginiaethau Cymru'n Un; cefnogwyd pob un i'w defnyddio ac maent bellach ar gael fel mater o drefn i gleifion yng Nghymru. Hefyd, cynhaliwyd chwe adolygiad ar gyfer argymhellion presennol Cymru'n Un a chafodd un feddyginiaeth ei thynnu o'r rhaglen waith oherwydd ei bod bellach wedi'i chynnwys o fewn canllawiau cenedlaethol. Mae AWTTC yn casglu ac yn dadansoddi data o IPFRs ledled Cymru yn rheolaidd, i chwilio am garfannau cleifion ar gyfer meddyginiaethau a chyflyrau penodol a allai fod yn addas i’w hasesu gan ddefnyddio proses Meddyginiaethau Cymru’n Un.

Adroddodd paneli unigol ar eu gweithgareddau lleol i gefnogi clinigwyr trwy ddarparu arweiniad ar lenwi ffurflenni a hyrwyddo'r angen i gasglu data canlyniadau. Cynhaliwyd archwiliad mewnol ar gyfer un panel ac mae eraill wedi bod yn ymwneud â hyfforddi aelodau newydd o'r panel. Gwnaeth nifer y canlyniadau cleifion a adroddwyd gan glinigwyr i'r paneli IPFR ar ôl cwblhau triniaethau wella ers y flwyddyn flaenorol. O'r rhain, adroddwyd bod 77% o gleifion wedi cael ymateb cyflawn neu rannol i driniaeth a bod 70% wedi profi gwelliant yn ansawdd eu bywyd.

Meddai'r Athro James Coulson, Cyfarwyddwr Clinigol, AWTTC: "Mae ein proses Sicrhau Ansawdd yn dangos bod paneli’n cyflawni cyfraddau uchel o gysondeb â’r polisi IPFR. Mae’n galonogol ein gweld yn dychwelyd i’r lefelau (sicrhau ansawdd) a gyflawnwyd cyn y pandemig COVID 19. Mae mwy o dystiolaeth bod paneli’n ystyried gwerth am arian a chostau triniaethau amgen yn eu trafodaethau gwneud penderfyniadau."

Yn 2022-2023 fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro recriwtio a hyfforddi pedwar aelod newydd o’r panel, recriwtiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddau aelod newydd a recriwtiodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys un aelod lleyg newydd. Dysgwch fwy am ddod yn Aelod Lleyg yma.

Darllenwch yr Adroddiad Blynyddol IPFR 2022-2023 llawn

Darllenwch rifynnau blaenorol Adroddiad Blynyddol IPFR

Dilynwch AWTTC: