24 Tachwedd 2023
Mae’n bleser gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) gyhoeddi adroddiad blynyddol Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) ar gyfer 2022 – 2023. Mae’r adroddiad, a luniwyd gan AWTTC, yn cynnwys gwaith y timau IPFR ar draws Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ar gyfer cleifion yng Nghymru. Mae timau IPFR ledled Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i gleifion gyda phroses amserol a chyson.
Amlygir y canlynol yn yr adroddiad:
Adroddir hefyd am weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth IPFR. Parhaodd y grŵp Sicrhau Ansawdd IPFR i gyfarfod bob chwarter i asesu un IPFR a ddewiswyd ar hap ar gyfer pob panel er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â meini prawf Polisi Cymru Gyfan. Yn 2022-2023 roedd dros 90% o’r IPFRs a adolygwyd gan y grŵp Sicrhau Ansawdd yn bodloni’r meini prawf hyn, mae’r grŵp yn hyderus bod timau IPFR ledled Cymru yn darparu gwasanaeth amserol, effeithlon sydd wedi’i ddogfennu’n dda.
Aseswyd wyth meddyginiaeth/cyfuniad o feddyginiaethau drwy broses Meddyginiaethau Cymru'n Un; cefnogwyd pob un i'w defnyddio ac maent bellach ar gael fel mater o drefn i gleifion yng Nghymru. Hefyd, cynhaliwyd chwe adolygiad ar gyfer argymhellion presennol Cymru'n Un a chafodd un feddyginiaeth ei thynnu o'r rhaglen waith oherwydd ei bod bellach wedi'i chynnwys o fewn canllawiau cenedlaethol. Mae AWTTC yn casglu ac yn dadansoddi data o IPFRs ledled Cymru yn rheolaidd, i chwilio am garfannau cleifion ar gyfer meddyginiaethau a chyflyrau penodol a allai fod yn addas i’w hasesu gan ddefnyddio proses Meddyginiaethau Cymru’n Un.
Adroddodd paneli unigol ar eu gweithgareddau lleol i gefnogi clinigwyr trwy ddarparu arweiniad ar lenwi ffurflenni a hyrwyddo'r angen i gasglu data canlyniadau. Cynhaliwyd archwiliad mewnol ar gyfer un panel ac mae eraill wedi bod yn ymwneud â hyfforddi aelodau newydd o'r panel. Gwnaeth nifer y canlyniadau cleifion a adroddwyd gan glinigwyr i'r paneli IPFR ar ôl cwblhau triniaethau wella ers y flwyddyn flaenorol. O'r rhain, adroddwyd bod 77% o gleifion wedi cael ymateb cyflawn neu rannol i driniaeth a bod 70% wedi profi gwelliant yn ansawdd eu bywyd.
Meddai'r Athro James Coulson, Cyfarwyddwr Clinigol, AWTTC: "Mae ein proses Sicrhau Ansawdd yn dangos bod paneli’n cyflawni cyfraddau uchel o gysondeb â’r polisi IPFR. Mae’n galonogol ein gweld yn dychwelyd i’r lefelau (sicrhau ansawdd) a gyflawnwyd cyn y pandemig COVID 19. Mae mwy o dystiolaeth bod paneli’n ystyried gwerth am arian a chostau triniaethau amgen yn eu trafodaethau gwneud penderfyniadau."
Yn 2022-2023 fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro recriwtio a hyfforddi pedwar aelod newydd o’r panel, recriwtiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddau aelod newydd a recriwtiodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys un aelod lleyg newydd. Dysgwch fwy am ddod yn Aelod Lleyg yma.
Darllenwch yr Adroddiad Blynyddol IPFR 2022-2023 llawn
Darllenwch rifynnau blaenorol Adroddiad Blynyddol IPFR