Heb ganllaw HTA, neu tra’n aros am un i gael ei gyhoeddi, gall cwmnïau fferyllol gynnig cytundeb cyflenwi meddyginiaeth am ddim i GIG Cymru i alluogi cleifion a chlinigwyr i gael mynediad at feddyginiaeth benodol am ddim cyn belled â bod rhai meini prawf yn cael eu bodloni.
Mae canllaw cyflenwi meddyginiaeth am ddim Cymru gyfan yn cyflwyno rheolaethau newydd i sicrhau tegwch a chysondeb o ran mynediad cleifion a chlinigwyr at feddyginiaethau a gynigir i GIG Cymru am ddim.
Mae prif fferyllwyr byrddau iechyd ac AWTTC yn cydlynu’r cytundebau cyflenwi meddyginiaeth am ddim ar ran GIG Cymru.
Fel arfer, dim ond i feddyginiaethau sydd newydd eu trwyddedu y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol, lle mae deiliad yr awdurdodiad marchnata wedi cynnal asesiad technoleg iechyd gan AWMSG neu NICE, a lle nad yw’r argymhelliad wedi’i wneud hyd yma.
Fodd bynnag, mae’r canllawiau wedi’u diweddaru dros dro i gynnwys y cyflenwad tosturiol o feddyginiaethau heb drwydded yn ystod y pandemig COVID-19. Gweler Atodiad 2 y ddogfen ganllaw am fanylion y broses ar gyfer ystyried meddyginiaethau o’r fath yn ystod y pandemig ac ar gyfer y ffurflen gyflwyno gysylltiedig.
Sylwer. Dim ond yn ystod pandemig COVID-19 y mae’r diweddariadau i’r canllawiau sy’n ymwneud â defnyddio meddyginiaethau heb drwydded yn berthnasol; byddant yn cael eu hadolygu ymhen tri mis, neu cyn hynny os bydd newid sylweddol yn y sefyllfa.
Lawrlwythwch: Canllawiau ar gyflenwi meddyginiaeth am ddim Cymru Gyfan (yn cynnwys ffurflenni cyflwyno)