Cliciwch ar y dolenni neu sgroliwch i lawr y dudalen am wybodaeth am:
Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau strategol mewn mynediad at feddyginiaethau a rheoli meddyginiaethau yn ymwneud â:
Lawrlwythwch Gyfansoddiad AWMSG
Mae AWMSG yn goruchwylio ac yn llywodraethu ei is-grwpiau (Grŵp Cynghori Rhagnodi Cymru Gyfan, Grŵp Asesu Meddyginiaethau Cymru'n Un a Grŵp Asesu Meddyginiaethau Trwyddedig Cymru'n Un) ac yn sicrhau ansawdd eu hargymhellion trwy gymeradwyaeth. Os na all AWMSG gymeradwyo argymhelliad, rhaid datgan eu rhesymeg dros beidio â chymeradwyo a’u dychwelyd i’r is-grŵp priodol i’w hystyried ymhellach. Mae hyn yn caniatáu i AWMSG ailystyried argymhellion os rhoddir rhagor o wybodaeth, ac ar ôl hynny bydd AWMSG yn gwneud eu penderfyniad terfynol.
Mae AWTTC yn cefnogi AWMSG a'i is-grwpiau. Mae staff AWTTC yn gweithio ar asesiadau meddyginiaethau; rheoli rhagnodi meddyginiaethau, diogelwch a gwenwyneg; a dadansoddi data rhagnodi sydd wedyn yn cael ei ystyried gan AWMSG a'i is-grwpiau.
Bydd Strategaeth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu derbyn gwasanaethau iechyd sy’n diwallu eu hanghenion.
Darllenwch Strategaeth AWMSG ar gyfer Cymru: 2024-2029
Mae fersiynau blaenorol o strategaeth AWMSG ar gael o dudalen Strategaeth Feddyginiaethau Cymru .
Mae’r pwyllgor yn cynnwys meddygon ymgynghorol y GIG, meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, economegwyr iechyd, cynrychiolwyr y diwydiant fferyllol ac aelodau lleyg sy’n cyfuno eu harbenigedd a’u gwybodaeth i gytuno ar y defnydd o feddyginiaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yng Nghymru. Cadeirydd AWMSG yw'r Athro Iolo Doull, Cyfarwyddwr Meddygol Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC). Lawrlwythwch restr aelodaeth AWMSG (Saesneg yn unig)
Mae AWMSG fel arfer yn cyfarfod 10 gwaith y flwyddyn ac mae cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd. Mae dyddiadau a phapurau cyfarfodydd ar gyfer cyfarfodydd AWMSG yn y dyfodol ynghyd â chofnodion ac agendâu cyfarfodydd blaenorol ar gael ar dudalen cyfarfodydd AWMSG .
Mae’n rhaid i holl aelodau AWMSG lenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod AWMSG.
Mae adroddiad blynyddol diweddaraf AWMSG ac adroddiadau blynyddol blaenorol AWMSG ar gael ar dudalen adroddiadau blynyddol AWMSG .
Ar ddiwedd 1999, sefydlodd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ragnodi, dan gadeiryddiaeth Syr Norman Mills, i roi cyngor ar wella arferion rhagnodi a darparu meddyginiaethau yng Nghymru. Argymhellodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen sefydlu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan a datblygu Strategaeth Ragnodi Cymru Gyfan. Sefydlwyd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) yn 2002 i gynghori Llywodraeth Cymru ar rheoli meddyginiaethau a rhagnodi mewn modd effeithiol, effeithlon a thryloyw.
Lawrlwythwch adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ragnodi , a gyhoeddwyd yn 2001.
Mae Pwyllgor Llywio AWMSG yn goruchwylio ac yn llywio gwaith AWMSG ac yn monitro ac yn gwerthuso gweithgareddau AWMSG i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'r egwyddorion a'r gwerthoedd sylfaenol. Mae Pwyllgor Llywio AWMSG hefyd yn sicrhau bod AWMSG a'i is-bwyllgorau yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Lawrlwythwch Gyfansoddiad Pwyllgor Llywio AWMSG .
Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob mis, yn breifat. Cadeirydd Pwyllgor Llywio AWMSG yw’r Athro Iolo Doull sy’n Gadeirydd AWMSG. Bydd rhestr o aelodau’r Pwyllgor Llywio â phleidlais ar gael o’r fan hon yn gynnar yn 2025.
Mae Panel Craffu AWMSG yn penderfynu a oes angen cyngor ar feddyginiaeth yn GIG Cymru ac, os felly, y llwybr asesu mwyaf priodol. Bydd meddyginiaethau’n cael eu hystyried ar gyfer asesiad lle mae angen clinigol a/neu fudd i GIG Cymru a’r bobl y mae’n eu gwasanaethu.
Lawrlwythwch Gyfansoddiad Panel Craffu AWMSG .
Mae'r panel yn cyfarfod bob mis, yn breifat, ac mae crynodebau o'u penderfyniadau ar gael ym mhenderfyniadau Panel Craffu AWMSG . Cadeirydd Panel Craffu AWMSG yw Tony Williams, Pennaeth Gwasanaeth Mynediad Cleifion i Feddyginiaethau yn AWTTC. Bydd rhestr o aelodau pleidleisio Panel Craffu AWMSG ar gael o'r fan hon yn gynnar yn 2025.
Mae Grŵp Asesu Meddyginiaethau Trwyddedig Cymru’n Un (LOWMAG) yn is-grŵp o AWMSG ac mae’n cynghori ar feddyginiaethau presennol a rhai newydd eu trwyddedu i alluogi mynediad cleifion yn absenoldeb cyngor arfarnu technoleg gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae LOWMAG yn darparu argymhellion i AWMSG ar feddyginiaethau trwyddedig pan fo angen clinigol heb ei ddiwallu neu gyfle i ychwanegu gwerth. Mae LOWMAG yn gwneud hyn drwy ystyried y dystiolaeth o gost-effeithiolrwydd (pan fydd ar gael), effeithiolrwydd clinigol, effaith y gyllideb a materion cymdeithasol ac ystyried barn clinigwyr, cleifion, grwpiau cymorth i gleifion a gwneuthurwr y feddyginiaeth sy'n cael ei hasesu.
Lawrlwythwch Gyfansoddiad LOWMAG .
Mae LOWMAG yn cyfarfod hyd at 10 gwaith y flwyddyn yn breifat, i siarad am yr holl dystiolaeth ar gyfer pob meddyginiaeth sy'n cael ei hasesu. Yn y cyfarfod byddant yn gwneud argymhelliad a fydd wedyn yn cael ei anfon at AWMSG i'w gymeradwyo. Cadeirydd LOWMAG yw'r Athro James Coulson, Ffarmacolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyfarwyddwr Clinigol AWTTC. Lawrlwythwch restr aelodaeth LOWMAG (Saesneg yn unig).
Mae’n rhaid i holl aelodau LOWMAG lenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod LOWMAG
Mae Grŵp Asesu Meddyginiaethau Cymru’n Un (OWMAG) yn is-grŵp o AWMSG ac mae’n cynghori ar feddyginiaethau oddi ar y label sy’n destun ansicrwydd mawr ar draws GIG Cymru ac y dangoswyd angen clinigol clir amdanynt o fewn GIG Cymru. Mae OWMAG yn ystyried statws oddi ar label y feddyginiaeth ar gyfer y dynodiad arfaethedig ac unrhyw ansicrwydd cysylltiedig ynghylch y sylfaen dystiolaeth ar gyfer ei defnyddio.
Lawrlwythwch Gyfansoddiad OWMAG .
Mae OWMAG yn cyfarfod hyd at 10 gwaith y flwyddyn yn breifat, i siarad am yr holl dystiolaeth ar gyfer pob meddyginiaeth sy'n cael ei hasesu. Yn y cyfarfod byddant yn gwneud argymhelliad a fydd wedyn yn cael ei anfon at AWMSG i'w gymeradwyo. Cadeirydd OWMAG yw Dr Andy Champion, Cyfarwyddwr Rhaglen AWTTC. Lawrlwythwch restr aelodaeth OWMAG (Saesneg yn unig).
Mae’n rhaid i holl aelodau OWMAG lenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod OWMAG.
Mae cofnodion cyfarfodydd blaenorol ar gael o dudalen cyfarfodydd OWMAG.
Mae Grŵp Cynghori Presgripsiynu Cymru Gyfan (AWPAG) yn is-grŵp o AWMSG ac mae’n cynghori ar ddatblygiadau strategol o ran rhagnodi meddyginiaethau a’u defnydd diogel ac effeithiol yng Nghymru.
Mae AWPAG yn gweithio i:
Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am aelodaeth AWPAG a Chyfansoddiad AWPAG . Cadeirydd AWPAG yw Dr Laurence Gray, Ffarmacolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cynhelir cyfarfodydd AWPAG yn breifat. Mae dyddiadau cyfarfodydd AWPAG ar gyfer eleni a chofnodion o gyfarfodydd blaenorol ar gael o dudalen cyfarfodydd AWPAG .
Mae'n rhaid i holl aelodau AWPAG lenwi ffurflen Datganiad o Ddiddordeb bob blwyddyn a chyn cymryd rhan mewn unrhyw gyfarfod AWPAG.
Mae Grŵp Cynllun Trefniant Masnachol Cymru (CASWG), yn is-bwyllgor AWMSG a sefydlwyd ym mis Ebrill 2025. Mae’r aelodaeth yn cynnwys cydweithwyr yn y bwrdd iechyd a GIG Cymru i gefnogi gweithredu meddyginiaethau a argymhellir gan AWMSG a NICE sy’n gysylltiedig â threfniant masnachol.
Lawrlwythwch gyfansoddiad CASWG
Mae'r pwyllgor yn cyfarfod bob mis, yn breifat. Cadeirydd CASWG yw Bethan Tranter. Bydd rhestr o aelodau pleidleisio ar gael o'r fan hon yn ddiweddarach yn 2025.
Mae Grŵp Cynghori Sicrwydd Ansawdd IPFR yn cyfarfod bob tri mis i adolygu sampl o geisiadau ariannu cleifion unigol a wneir ledled Cymru. Mae’n sicrhau bod pob bwrdd iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi dilyn y prosesau cywir. Maent yn cynghori paneli ar unrhyw feysydd sydd angen eu gwella ac yn rhannu enghreifftiau o arfer da ar draws y paneli. Nid yw Grŵp Cynghori ar Sicrhau Ansawdd IPFR yn is-grŵp o AWMSG ond mae’n atebol i Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru ac yn adrodd iddo.
Mae cofnodion o gyfarfodydd blaenorol a Chylch Gorchwyl ar gael o dudalen Grŵp Cynghori Sicrhau Ansawdd IPFR . Cadeirydd y Grŵp yw’r Athro James Coulson, Ffarmacolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyfarwyddwr Clinigol AWTTC.