Yn ogystal â bod cymeradwyaeth gyflym ar gyfer mynediad cleifion at driniaeth, bydd y data penodol manwl sydd ar gael o'r system yn cynnig budd mawr at ddibenion archwilio a chynllunio. Bydd y data clinigol sydd ar gael yn helpu i lywio gofynion gwasanaeth o safbwynt gweithgarwch rhagweld, cynllunio a gweithredu ar gyfer cymeradwyaethau NICE/AWMSG newydd.