Lle bynnag y bo modd, caiff ffurflenni eu cynllunio i ganiatáu cymeradwyo/gwrthod yn awtomatig, sy'n golygu y derbynnir ymateb ar unwaith ar ôl cyflwyno'r ffurflen.
Mewn amgylchiadau lle mae angen adolygu'r manylion a gyflwynir ar ffurflen cyn y gellir gwneud penderfyniad cymeradwyo, bydd gofyn i fyrddau iechyd sefydlu prosesau effeithlon i sicrhau bod clinigwyr yn cael gwybod am y canlyniad mewn modd amserol.
Mae'r system yn cadw hanes ceisiadau, gan gynnwys yr holl ohebiaeth gysylltiedig.