Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y ffurflenni'n cael eu creu ar gyfer pob meddyginiaeth?

Bydd ffurflenni Blueteq yn cael eu creu ar gyfer GIG Cymru naill ai o'r dechrau neu drwy addasu templed GIG Lloegr presennol lle bo hynny ar gael ac yn briodol.

Bydd meini prawf triniaeth a nodir yn y canllawiau cenedlaethol (h.y. NICE/AWMSG) yn cael eu defnyddio i ddatblygu'r ffurflenni.  Gellir ychwanegu meini prawf ychwanegol os ystyrir bod hynny'n briodol.

Yn dilyn hyn, cynhelir ymgynghoriad ar y ffurflenni gyda'r arbenigeddau clinigol perthnasol yng Nghymru cyn i Grŵp Llywio Gweithredu Blueteq Cymru Gyfan eu hystyried a chyflwyno'r ffurflenni yng Nghymru wedi hynny.

Dilynwch AWTTC: