Bydd y data'n cael ei ddefnyddio gan fyrddau iechyd i ddarparu dull llywodraethu clinigol ac ariannol ar gyfer rhagnodi cyffuriau cost uchel. Bydd yn cael ei ddefnyddio i roi sicrwydd bod rhagnodi cyffuriau cost uchel yn briodol, h.y. ar gael i gleifion sy'n bodloni'r meini prawf cenedlaethol ar gyfer triniaeth.