Mae Canolfan Therapiwtig a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn falch iawn o gyhoeddi bod System Cyffuriau Cost Uchel Blueteq (HCD) ar gyfer Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Cymru yn mynd yn fyw yn Ebrill 2025
Defnyddir system HCD Blueteq i awdurdodi’r defnydd o gyffuriau cost uchel a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar draws ystod gyfan o gyflyrau gofal iechyd.
Bydd mabwysiadu’r system yn sicrhau ein bod yn cael y driniaeth iawn i’r cleifion iawn ac yn caniatáu i GIG Cymru reoli’r cymhlethdodau cynyddol sy’n gysylltiedig â rhagnodi’r triniaethau cost uchel hyn.
Cafodd system HCD Blueteq ei chaffael ar gyfer GIG Cymru gan NWJCC (WHSSC gynt) a Llywodraeth Cymru yn 2019, a’r nod cychwynnol oedd i gefnogi’r gwaith o roi’r holl HCDs a gomisiynir gan NWJCC ar waith, ond gyda’r bwriad o’i gweithredu’n ehangach ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru.
Mae’r broses o weithredu system HCD Blueteq wedi'i rheoli a'i gweinyddu gan Grŵp Llywio sy'n cynnwys cynrychiolwyr Byrddau Iechyd o bob rhan o Gymru a chymorth Rheoli Prosiectau a ddarperir gan AWTTC. Mae 'ffurflenni' Blueteq yn cael eu cymeradwyo a'u rheoli ar sail Cymru gyfan.
Cafodd y broses o weithredu system HCD Blueteq ei gweithredu mewn dau gam. Roedd Cam I ar gyfer meddyginiaethau a gomisiynir gan NWJCC yn unig (gan gynnwys pob ATMP); roedd cam II yn cynnwys HCDs a ragnodwyd gan y saith Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth yng Nghymru. Mae Cam II yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2025. Bydd Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn nodi eu meysydd blaenoriaeth eu hunain ar gyfer gweithredu a byddant yn parhau i weithredu fesul cam nes bod yr holl feddyginiaethau cymwys wedi'u cynnwys (rhestr i ddilyn). Bydd diweddariadau allweddol yn cael eu rhoi yma ar wefan AWTTC.
Bydd system HCD Blueteq yn rhoi sicrwydd i Fyrddau Iechyd bod meddyginiaethau cost uchel cymeradwy yn cael eu rhagnodi yn unol â pholisi lleol a chanllawiau NICE gan sicrhau cysondeb ledled Cymru a Lloegr.
Mae'r system yn darparu un broses ar gyfer cofnodi a chymeradwyo triniaethau y mae Byrddau Iechyd am eu monitro. Bydd cais HCD yn cael ei gymeradwyo trwy lenwi 'ffurflen' syml sy'n rhestru'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y feddyginiaeth honno. Mae llyfrgell o ffurflenni unigryw ar gyfer HCDs yn cael ei datblygu gyda chymorth gan dimau clinigol ledled Cymru. Bydd rhestr o'r ffurflenni sydd ar gael i'w defnyddio yn cael ei chyhoeddi yma ar wefan AWTTC maes o law.
Maent yn hawdd i'w defnyddio; gellir ychwanegu eitemau data ychwanegol sy’n glir a dealladwy lle bo'n briodol.
Mae cydweithredu agos â GIG Cymru a GIG Lloegr wedi galluogi Blueteq i gynnwys swyddogaethau digonol i sicrhau y gellir darparu ar gyfer triniaethau trawsffiniol yn ddi-dor a’u priodoli i’r sefydliadau cywir.
Lle bo'n briodol, gellir cynnwys cyfnod adolygu a'i storio ar gyfer triniaethau penodol ac yna caiff ei gyfrifo a'i gofnodi yn erbyn pob hysbysiad.
Rhestr feddyginiaeth Blueteq GIG Cymru i'w diweddaru yma yn fuan
Mae llwyddiant y prosiect i'w briodoli i bawb a gymerodd ran: y Grŵp Llywio gweithredu, clinigwyr sy'n ymwneud ag adolygu ffurflenni meini prawf meddyginiaeth Blueteq a'r Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Blueteq.