Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Arfer Gorau AWTTC - 9 Gorffennaf 2026

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Diwrnod Arfer Gorau 2026 yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau 9 Gorffennaf. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ddigwyddiad ysbrydoledig a fydd yn canolbwyntio ar y thema Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy.

Beth sydd ar y gweill i chi?

Cewch gyfle i glywed gan arbenigwyr pwnc, dysgu gan gydweithwyr mewn byrddau iechyd eraill a bydd digon o amser i rwydweithio a sgwrsio â chydweithwyr o bob cwr o Gymru. P'un a ydych chi'n awyddus i ehangu eich gwybodaeth neu gysylltu â chyfoedion o'r un anian, dyma ddigwyddiad na fyddwch chi eisiau ei golli.

Rydym hefyd wrth ein bodd yn cyhoeddi bod ein cystadleuaeth posteri yn dychwelyd, yn dilyn yr ymateb gwych i ddigwyddiad cyntaf y llynedd. Byddwch yn barod i arddangos eich gwaith - bydd manylion llawn am ofynion cyflwyno a chategorïau yn cael eu rhannu'n fuan.

Cofrestru

Os hoffech sicrhau eich lle yn gynnar, cwblhewch y Ffurflen Gofrestru.

Mae'r gwahoddiad hwn yn agored i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a chydweithwyr y GIG sydd â diddordeb mewn cynaliadwyedd meddyginiaethau, felly mae croeso i chi rannu'r cyhoeddiad hwn gyda'ch timau a'ch rhwydweithiau.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddiwrnod diddorol ac ysbrydoledig.

Dilynwch AWTTC: