Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Arfer Gorau - 9 Gorffennaf 2026

Ar 9 Gorffennaf 2026, daeth mwy na 160 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru ynghyd ar gyfer Diwrnod Arfer Gorau blynyddol AWTTC, gan archwilio thema eleni: Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy.

Agorodd y diwrnod gydag anerchiad ysbrydoledig gan Marie Brousseau-Navarro, Dirprwy Gomisiynydd a Chyfarwyddwr Iechyd yn Swyddfa Cenedlaethau'r Dyfodol, a ddaeth â'r cysylltiadau rhwng optimeiddio meddyginiaethau a'r Pum Ffordd o Weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn fyw. Yn dilyn hynny fe wnaeth y siaradwr gwadd Nuala Hampson, o’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy, herio’r cynrychiolwyr i ystyried y camau ymarferol y gall rhagnodwyr a thimau gofal iechyd eu cymryd i gefnogi cleifion tra hefyd yn lleihau'r effaith amgylcheddol, gan dynnu sylw at y manteision a rennir i gleifion, gweithwyr proffesiynol a'r blaned. Rhoddodd Dr Amrita Jesurasa o Iechyd Cyhoeddus Cymru ddiweddariad ar atal a phresgripsiynu cymdeithasol, cyn i Sian Evans, hefyd o Iechyd Cyhoeddus Cymru, fyfyrio ar gynnydd Cymru o ran meddyginiaethau a chynaliadwyedd, a'r cyfleoedd i adeiladu ar y gwaith hwn ymhellach. Daeth y bore i ben gyda lansiad Archebwch yr Hyn Sydd Ei Angen Arnoch yn Unig, mudiad sydd â’r nod o sicrhau mai dim ond y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt y mae cleifion yn eu harchebu a lleihau gwastraff meddyginiaethau y gellir ei atal. Atgoffwyd y cynrychiolwyr fod gan bawb ran i'w chwarae—o ragnodwyr sy'n defnyddio dulliau gwneud penderfyniadau ar y cyd ac yn dad-ragnodi yn ystod adolygiadau meddyginiaeth, i fferyllwyr sy'n gwirio a oes angen pob eitem yn eu bag presgripsiwn ar gleifion, a chleifion sy'n osgoi cronni meddyginiaethau'n ddiangen.

Dros ginio, cafodd y cynrychiolwyr gyfle i archwilio'r cyflwyniadau poster, siarad yn uniongyrchol â'r awduron, a rhannu syniadau o ymarfer ledled Cymru. Yna cyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth poster a’r rhai a ddaeth yn agos i’r brig gan Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru, gyda manylion pellach yn cael eu rhannu isod. Parhaodd y prynhawn gyda chyfres o sesiynau grŵp, pob un yn cynnig persbectif gwahanol ar Optimeiddio Meddyginiaethau ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy.

Mae'r adborth o'r digwyddiad wedi bod yn gadarnhaol dros ben: Cytunodd 89.5% o’r ymatebwyr yn gryf eu bod wedi mwynhau’r diwrnod, tra bod 86.6% yn cytuno’n gryf eu bod wedi dysgu rhywbeth newydd y byddent yn ei roi ar waith neu’n ei rannu gyda chydweithiwr. Disgrifiodd y cynrychiolwyr y siaradwyr a'r cyflwyniadau fel rhai rhagorol, ysbrydoledig, difyr a pherthnasol. Gwnaeth llawer o bobl dynnu sylw hefyd at werth rhwydweithio, cysylltu â chydweithwyr a thrafod syniadau, gan nodi cryfder dod â grŵp mor amrywiol a brwdfrydig o bobl ynghyd.

Mae recordiadau o'r cyflwyniadau a sleidiau o bob un o'r sesiynau grŵp ar gael isod.

Diolch i bawb a ymunodd â ni ac a helpodd i wneud y diwrnod yn gymaint o lwyddiant. Edrychwn ymlaen at groesawu cynrychiolwyr yn ôl y flwyddyn nesaf—ac os ydych chi wedi colli’r cyfle, cadwch lygad am ddyddiad Diwrnod Arfer Gorau 2027, a fydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.

Dilynwch AWTTC: