Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y fframwaith hunan-weinyddu meddyginiaethau drafft Cymru Gyfan a'r ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.
Nod y fframwaith hunan-weinyddu meddyginiaethau yw darparu canllawiau clir, safonol i lywio polisi lleol. Ei nod yw sicrhau y gall cleifion sy'n hunan-weinyddu eu meddyginiaethau gartref wneud hynny'n ddiogel yn ystod derbyniadau i'r ysbyty. Bydd hefyd yn cyd-fynd ag ymdrechion i leihau dirywiad a gafwyd yn yr ysbyty a gwella ymreolaeth cleifion fel rhan o'r Bartneriaeth Gofal Diogel. Mae canllawiau Optimeiddio Gwasanaethau Fferyllfa wrth Ryddhau o'r Ysbyty i Wella Llif Cleifion (2022) ar gyfer GIG Cymru a'r Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Fferyllfa Glinigol yn Ysbytai'r GIG yng Nghymru (2023) ill dau yn pwysleisio'r angen i weithredu a gwerthuso polisïau hunan-weinyddu i rymuso cleifion i reoli eu meddyginiaethau tra yn yr ysbyty.
Gellir cael mynediad at y ddogfen a'r ffurflen EqHIA gysylltiedig a'r ffurflen adborth isod.
Dyddiad cau: 13 Tachwedd 2025
⇩ All Wales self-administration of medicines framework (Saesneg yn unig) 220KB (PDF) |
⇩ All Wales self-administration of medicnes framework EqHIA (Saesneg yn unig) 126 KB (PDF) |
⇩ Fframwaith hunan-weinyddu meddyginiaethau Cymru gyfan Ffurflen adborth 37KB (.doc) |