Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith Gofal a Rennir Cymru Gyfan (diweddariad 2025) (ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft o'r enw Fframwaith Gofal a Rennir Cymru Gyfan a'r ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.

Nod y ddogfen yw sicrhau cysondeb mewn gofal a rennir ledled Cymru o ran egwyddorion, cymhwyso trefniadau gofal a rennir sy’n cael eu datblygu a’u hadolygu, a mabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y claf tuag at ofal a rennir.

Datblygwyd y ddogfen yn dilyn mewnbwn gan Weithgor Oes Byr Gofal a Rennir (SLWG), yn cynnwys rhanddeiliaid o fyrddau iechyd, gofal sylfaenol ac eilaidd, a chynrychiolaeth leyg. Mae'r ddogfen wedi'i diweddaru yn cynnwys set o egwyddorion gofal a rennir, meini prawf ar gyfer meddyginiaethau sy'n addas ar gyfer gofal a rennir, ystyriaethau sy'n canolbwyntio ar y claf, manylion clir am rolau a chyfrifoldebau pawb dan sylw, diagram llif cymorth penderfyniadau drafft, a thaflen wybodaeth i gleifion. Cafodd y ddogfen ei hystyried gan aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi a’i diweddaru i gynnwys newidiadau cyn ei dosbarthu ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. 

Mae'r ddogfen a'r ffurflen EqHIA gysylltiedig a'r ffurflen adborth i'w gweld isod.

Dyddiad cau: Dydd Iau 29 Mai 2025

⇩ All Wales Shared Care Framework (update 2025) - consultation draft (Saesneg yn unig) 323KB (PDF)
⇩ All Wales Shared Care Framework (update 2025)- Equality Health and Impact Assessment form (Saesneg yn unig) 240KB (PDF)
⇩ All Wales Shared Care Framework (update 2025) - Ffurflen adborth ymgynghoriad 34KB (dogfen Word)
Dilynwch AWTTC: