Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft o'r enw Llyfr fformiwlâu archebion wedi'u llofnodi Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru a'r ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.
Mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) yn galluogi pob optometrydd sydd wedi'i gynnwys yn Rhestr Gyfunol GIG Cymru (Rhestr Offthalmig Atodol) i gynnig profion ac archwiliadau llygaid a ariennir gan y GIG ar gyfer problemau llygaid brys. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes darpariaeth i optometryddion gyflenwi'r meddyginiaethau neu'r dyfeisiau sydd eu hangen ar gyfer trin y cyflyrau hynny o dan y GIG. Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i gleifion eu prynu eu hunain, neu yn y rhan fwyaf o achosion, ceisio apwyntiad a phresgripsiwn gan eu meddyg teulu.
O ddiwedd y flwyddyn hon ymlaen, bydd optometryddion yn gallu cyflenwi'r meddyginiaethau neu'r dyfeisiau sydd eu hangen gan ddefnyddio archeb wedi'i llofnodi a bydd fferyllfeydd cymunedol yn gallu cyflenwi meddyginiaethau a ariennir gan y GIG a archebir gan optometryddion yng Nghymru ar ffurflen archebu safonol wedi'i llofnodi gan y GIG.
Nod y ddogfen hon yw cytuno ar restr gymeradwy o baratoadau llygaid (meddyginiaethau a dyfeisiau) i'w cynnwys ar lyfr fformiwlâu archebion wedi'u llofnodi WGOS.
Mae'r ddogfen a'r ffurflen EqHIA gysylltiedig a'r ffurflen adborth i'w gweld isod.
Dyddiad cau: Dydd Gwener 8 Awst 2025
⇩ Wales General Ophthalmic Services signed orders formulary - Consultation draft (Saesneg yn unig) 195KB (PDF) |
⇩ Wales General Ophthalmic Services signed orders formulary - Equality Health and Impact Assessment form (Saesneg yn unig) 82KB (PDF) |
⇩ Wales General Ophthalmic Services signed orders formulary - Ffurflen adborth ymgynghoriad 34KB (dogfen Word) |