Neidio i'r prif gynnwy

Dad-labelu alergedd penisilin hanesyddol (ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y ddogfen ddrafft History-based penicillin allergy de-labelling a’r ffurflen Equality and Health Impact Assessment (EqHIA) gysylltiedig.

Mae gan tua 6% o boblogaeth gyffredinol y DU label alergedd penisilin wedi’i gofnodi. Mewn llawer o achosion, gall hyn fod oherwydd adwaith andwyol a ddigwyddodd yn ystod cwrs o benisilin pan yn blentyn. Yn ogystal, digwyddodd yr adweithiau i benisilin i lawer o gleifion dros 10 mlynedd yn ôl ac ni ellir cofio manylion yr adwaith. Ar ben hynny, mewn hyd at 80% o gleifion, gall sensitifrwydd gael ei golli, a gall unigolion ddechrau goddef penisilin ar ôl 10 mlynedd. Mae tystiolaeth yn dangos nad oes gan fwy na 90% o gleifion sydd wedi’u labelu ag alergedd penisilin yr alergedd hwnnw pan gânt eu hasesu’n ffurfiol. Mae tystiolaeth gynyddol y gall labeli alergedd penisilin anghywir arwain at gleifion yn cael triniaeth gwrthfiotig amgen is-optimaidd a gallai hyn arwain at ganlyniadau gwaeth.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig a gellir eu defnyddio i helpu i adnabod pobl sydd â risg isel iawn o alergedd gwirioneddol i benisilin, y mae’n ddiogel tynnu’r label alergedd penisilin oddi arnynt yn seiliedig ar hanes blaenorol yn unig. Mae’r adnodd yn cynnwys deunyddiau ymarferol fel taflenni gwybodaeth i gleifion, templed asesu, posteri, templedi llythyrau a chardiau alergedd.

Mae’r ddogfen, y ffurflen EqHIA gysylltiedig a’r ffurflen adborth i’w gweld isod.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 6 Chwefror 2026

⇩ History-based penicillin allergy de-labelling - Consultation draft (Saesneg yn unig) 2,785 KB (PDF)
⇩ History-based penicillin allergy de-labelling - EqHIA for consultation (Saesneg yn unig) 521 KB (PDF)
⇩ History-based penicillin allergy de-labelling - Ffurflen ymgynghori (Cymraeg) 36 KB (.doc)
Dilynwch AWTTC: