Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rhagnodi Gwrthretrofirol HIV-1 (ymgynghoriad)

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar ddrafft y Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rhagnodi Gwrthretrofirol HIV-1 a’r ffurflen Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA) gysylltiedig.

Mae therapi gwrthretrofirol (ART) wedi'i drwyddedu ar gyfer trin firws diffyg imiwnedd dynol math 1 (HIV-1). Nod ART yw atal y llwyth firaol, lleihau marwolaethau a morbidrwydd sy'n gysylltiedig â haint HIV, lleihau trosglwyddiad ymlaen ac atal datblygiad syndrom diffyg imiwnedd a gafwyd. Dros y blynyddoedd, mae canlyniadau triniaeth gydag ART wedi gwella'n sylweddol o ran effeithiolrwydd clinigol a goddefgarwch.

Pwrpas Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rhagnodi Gwrthretrofirol HIV-1 yw cefnogi cysondeb ledled Cymru mewn rhagnodi therapi gwrthretrofirol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ddarbodus ar gyfer trin HIV-1. Nod y canllawiau yw cefnogi clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill wrth reoli HIV-1 yn ffarmacolegol i gyflawni arfer rhagnodi da, optimeiddio triniaeth i atal y llwyth firaol tra’n lleihau’r risg o sgîl-effeithiau, a gwella ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd yr unigolyn.

Mae’r ddogfen a’r ffurflen EqHIA gysylltiedig a’r ffurflen adborth ar gael isod.

Dyddiad cau: Dydd Gwener 5ed Rhagfyr 2025

⇩ All Wales HIV-1 Antiretroviral Prescribing Guidelines (Saesneg yn unig) 170KB (PDF)
⇩ All Wales HIV-1 Antiretroviral Prescribing Guidelines EqHIA (Saesneg yn unig) 89KB (PDF)
⇩ Canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Rhagnodi Gwrthretrofirol HIV-1 Ffurflen adborth 36KB (.doc)
Dilynwch AWTTC: