Neidio i'r prif gynnwy

Fframwaith optimeiddio meddyginiaethau

Rydyn ni eisiau eich adborth!

Rydym yn adolygu ein Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau. Rhan hanfodol o'r adolygiad hwn yw sicrhau ein bod yn ymatebol i adborth ein rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sydd wedi defnyddio ein hadnoddau yn y gorffennol, neu a allai eu defnyddio yn y dyfodol. Yn ystod 2026-2027, byddwn yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy.

Mae’r fframwaith hwn yn rhoi manylion y prosesau sy’n ymwneud â datblygiad adnoddau optimeiddio meddyginiaethau a gymeradwyir ac a gyhoeddir gan AWMSG, yn disgrifio sut y gellir cynnig prosiectau newydd ac yn egluro sut y caiff y cynigion hyn eu hystyried.

Mae hefyd yn diffinio’r prosesau cysylltiedig o ymgynghori, adolygu adnoddau wedi iddynt gael eu cyhoeddi a chydnabod adnoddau sydd ar wahân i’r broses gymeradwyo lawn.

Casglwyd y rhain ynghyd er mwyn annog ymgysylltu gan bob rhanddeiliad; o gynnig prosiectau newydd, drwy ymgysylltu yn ein hymgynghoriadau, i ddefnyddio a rhoi adborth am ein hadnoddau wedi iddynt gael eu cyhoeddi.

Fframwaith Optimeiddio Meddyginiaethau (Saesneg yn unig) 437KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Ebrill 2021 - Wedi'i ddiweddaru Rhagfyr 2022)

Adnoddau cysylltiedig:

Dilynwch AWTTC: