Mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) ar gyfer 2021-2022 yn cynnwys dangosyddion ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd, gan ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth:
- Poenliniarwyr mewn gofal sylfaenol
- Gwrthgeulyddion mewn ffibriliad atrïaidd
- Stiwardiaeth gwrthficrobaidd
Cefnogir y meysydd blaenoriaeth hyn gan barthau diogelwch ac effeithlonrwydd ychwanegol:
- Diogelwch:
- Dangosyddion Diogelwch Presgripsiynu
- Atalyddion pwmp proton
- Cyffuriau hypnotig a chyffuriau lleihau gorbryder
- Cardiau Melyn
- Effeithlonrwydd:
- Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau
- Inswlin
- Gwerth isel ar gyfer presgripsiynu
Bob chwarter blwyddyn llunnir adroddiad yn dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs.