Neidio i'r prif gynnwy

Dadansoddiad presgripsiynu

Gweinydd ar gyfer Gwybodaeth, Adroddiadau a Dadansoddiadau Rhagnodi (SPIRA)

Rhaglen ryngweithiol ar-lein ar gyfer dadansoddiad cymharol o ddata presgripsiynu yw’r Gweinydd ar gyfer Gwybodaeth, Adroddiadau a Dadansoddiadau Rhagnodi (SPIRA). Arddangosir data ar ddangosfyrddau ar gyfer Blaenoriaeth Isel ar gyfer Cyllido Meddyginiaethau, Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPI) ac Arbedion Effeithlonrwydd Biodebyg. Diweddarir dangosfwrdd Blaenoriaeth Isel ar gyfer Cyllido Meddyginiaethau bob mis a diweddarir y dangosfyrddau eraill bob chwarter blwyddyn.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am SPIRA.

Gofyn am ddata presgripsiynu

Os ydych chi'n gweithio i'r GIG yng Nghymru ac yn dymuno gwneud cais am ddata rhagnodi gan Uned Cymorth Dadansoddol Rhagnodi Cymru (WAPSU) yn AWTTC, llenwch y ffurflen cais am ddata rhagnodi WAPSU a'i hanfon at awttc@wales.nhs.uk. Caiff eich ffurflen wedi'i llenwi ei hystyried yn unol â'n rhaglen waith bresennol ac yn y dyfodol.

Dilynwch AWTTC: