Neidio i'r prif gynnwy

Systemau dosau wedi'u monitro

Mae angen i gleifion allu cymryd eu meddyginiaeth yn ddiogel a chael meddyginiaeth pan gânt eu rhyddhau o’r ysbyty mewn modd sy'n osgoi oedi ac yn defnyddio adnoddau GIG Cymru yn briodol. Nid yw llawer o ysbytai wedi gallu darparu meddyginiaeth yn uniongyrchol i'r claf pan y’i rhyddheir mewn achosion lle mae'r claf wedi bod yn derbyn system dosau wedi'u monitro (MDS) yn flaenorol. Diben y ddogfen hon yw lleihau risg ac amrywiad yn y broses ryddhau yng Nghymru ar gyfer cleifion sydd wedi bod yn derbyn MDS cyn cael eu derbyn i’r ysbyty ac sy'n parhau i fod angen MDS ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.

Cafodd yr adnodd ei asesiad i'w hadolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny, cytunodd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) fod angen adolygu'r cynnwys. Mae 'systemau dos wedi'u monitro' wedi cael sylw i'w hadolygu, a disgwylir cyhoeddi fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd yn 2025.

Ystyriwyd bod cynnwys yr adnodd hwn o fudd parhaus i GIG Cymru, er y cytunwyd bod angen ehangu cwmpas y ddogfen a bod angen diweddaru rhywfaint o'r cynnwys presennol.

Os hoffech gymryd rhan yn y prosesau datblygu neu ymgynghori ar gyfer fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd hwn, cysylltwch â ni yn awttc@nhs.wales.uk

⇩ Monitored Dosage Systems Guidance 120KB (PDF) (Saesneg yn unig)
⇩ Monitored Dosage Systems Standards 303KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddedig - Mawrth 2011)

Dilynwch AWTTC: