Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth glinigol gychwynnol o ddiddyfnu o nicotin ymhlith oedolion mewn gofal eilaidd

Nod y ddogfen hon yw hysbysu ac arwain staff gofal iechyd yn GIG Cymru ynghylch sut i ddechrau therapi disodli nicotin (NRT) i reoli diddyfnu o nicotin ymhlith oedolion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty (gofal eilaidd).

Cafodd y ddogfen ei hadolygu a'i diweddaru i gynnwys gwybodaeth am y defnydd o fêps. Mae’r ddogfen yn ymdrin â chefnogi cleifion sy’n dymuno dechrau ymgais i roi’r gorau iddi a chleifion nad ydynt yn dymuno dechrau ymgais i roi’r gorau iddi ond sydd am gael NRT i reoli diddyfnu o nicotin tra yn yr ysbyty, yn ogystal â chleifion allanol, teuluoedd a ffrindiau cleifion, a staff ysbyty.

Mae'r ddogfen yn diffinio rolau a chyfrifoldebau staff gofal iechyd (nyrsys, meddygon, fferyllwyr ac ymarferwyr rhoi'r gorau i ysmygu) wrth i gleifion gael eu derbyn i'r ysbyty, yn ystod eu harhosiad fel cleifion mewnol ac adeg eu rhyddhau. Mae'n cwmpasu asesu cychwynnol a rhagnodi NRT, a rhagnodi cynhyrchion NRT ychwanegol “pan fo angen”ac yn darparu cymorth a chyngor ychwanegol i gleifion. Mae hefyd yn crynhoi'r hyfforddiant sydd ar gael i staff gofal iechyd. Bwriedir i’r ddogfen hon gael ei defnyddio ochr yn ochr â ‘Canllaw Cymru Gyfan: Ffarmacotherapi ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu.’

⇩ Initial clinical management of nicotine withdrawal in adults in secondary care 590KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Tachwedd 2024)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA)

Initial clinical management of nicotine withdrawal in adults in secondary care - EqHIA - 162KB (PDF) (saesneg yn unig)

Dilynwch AWTTC: