Neidio i'r prif gynnwy

Rhagnodi meddyginiaethau generig wedi'u brandio yn GIG Cymru: Datganiad sefyllfa

Ni ddylid rhagnodi meddyginiaethau generig wedi’u brandio fel mater o drefn yn GIG Cymru oni bai bod rheswm clinigol penodol dros wneud hynny.

Mae rhagnodi generig yn caniatáu i unrhyw feddyginiaeth generig addas (neu frand neu feddyginiaeth generig wedi’i brandio cyfwerth) gael ei dosbarthu, ac mae’n agor y posibilrwydd i nifer o fanteision gael eu gwireddu gan gleifion a’r GIG yng Nghymru. Mae rhagnodi yn ôl brand neu feddyginiaeth generig wedi’i brandio yn cyfyngu’r dosbarthwr i gyflenwi’r brand neu’r feddyginiaeth generig wedi’i brandio honno yn unig. Mewn rhai amgylchiadau, mae parhad o’r un brand neu’r un feddyginiaeth generig wedi’i brandio yn glinigol bwysig. Mae’r ddogfen yn pwysleisio y dylai rhagnodwyr ddefnyddio eu barn glinigol ac ymgynghori â’r wybodaeth ddiweddaraf wrth benderfynu a ddylid rhagnodi yn ôl brand neu feddyginiaeth generig wedi’i brandio.

⇩ Prescribing of branded generics in NHS Wales: Position statement (Saesneg yn unig) 188KB (PDF)

(Cyhoeddwyd Hydref 2024)

Ffurflen Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Iechyd (EqHIA).

Dilynwch AWTTC: