Nod y canllawiau hyn yw annog gweithrediad mwy cyson o strategaeth rhagnodi wrth gefn gan bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn gofal sylfaenol. Y gobaith yw y bydd gweithredu'r canllaw hwn yn lleihau amlygiad diangen i gyffuriau gwrthficrobaidd. Gall cymryd gwrthfiotigau yn ddiangen achosi adweithiau niweidiol fel dolur rhydd, brech a chwydu, a chynyddu costau’r GIG yn ogystal â hybu ymwrthedd gwrthfacterol. Un strategaeth i leihau defnydd gwrthficrobaidd diangen mewn gofal sylfaenol yw defnyddio rhagnodi wrth gefn ar gyfer heintiau hunangyfyngol penodol. Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP) yn cefnogi rhagnodi gwrthfiotigau wrth gefn ar gyfer: otitis media aciwt; dolur gwddf acíwt; rhinosinwsitis acíwt a peswch acíwt/broncitis acíwt. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) hefyd yn argymell ei ddefnyddio ar gyfer rheoli carfan benodol o gleifion ag UTI syml. Anogir cleifion i hunanreoli eu heintiad, a dim ond os bydd y symptomau'n parhau neu'n gwaethygu ar unrhyw adeg y defnyddir gwrthfiotigau. Mae’r ddogfen hon yn manylu ar ganllawiau ar y defnydd priodol o ragnodi gwrthfiotigau wrth gefn ar gyfer heintiau hunangyfyngol penodol, y strategaethau y gellir eu defnyddio a phwyntiau arfer da wrth roi’r strategaeth ar waith ym maes gofal sylfaenol.
Mae’r canllaw rhagnodi gwrthfiotig wrth gefn hwn wedi’i baratoi gan grŵp cydweithredol aml-broffesiynol yn dilyn trafodaethau o fewn Grŵp Ffrwd Gwaith Gofal Sylfaenol y Bwrdd Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd. Mae'r canllaw yn berthnasol i bawb sy'n ymwneud â rhagnodi, dosbarthu, rhoi a rhoi gwrthfiotigau ar gyfer cyflyrau hunangyfyngol.
⇩ Back-up antibiotic prescribing: Good practice guide (Saesneg yn unig) 1,647KB (PDF) |
(Hydref 2024)
Mae'r taflenni gwybodaeth hyn i gleifion yn cynnwys gwybodaeth allweddol i gleifion pan roddir presgripsiwn gwrthfiotig wrth gefn iddynt. Maent yn ymdrin â chwestiynau cyffredin a diffiniadau o dermau defnyddiol. Mae'r taflenni ar gael mewn tri fformat (A, B ac C). Testun yn unig yw Fformat A, mae gan fformat B eiriau a lluniau, ac mae fformat C yn fersiwn hawdd ei ddarllen.
(Cyhoeddwyd taflenni gwybodaeth i gleifion ym mis Hydref 2024)