Adnoddau i gefnogi'r broses o ragnodi cyffuriau gwrthseicotig yn briodol i bobl sy'n byw gyda dementia
Weithiau gall pobl sy'n byw gyda dementia brofi gofid, mynd yn ofnus a/neu'n rhwystredig, gan arwain at symptomau ymddygiadol a seicolegol neu anwybyddol fel cerdded gyda phwrpas, gweiddi a holi dro ar ôl tro.
Dylid cynnig ymyriadau seicogymdeithasol ac amgylcheddol i leihau trallod ymhlith pobl sy'n byw gyda dementia, a chynnig rhagnodi gwrthseicotig i’r rhai sydd naill ai mewn perygl o niweidio eu hunain neu eraill, neu sy'n profi cynnwrf neu’n gweld lledrithiau sy'n achosi trallod difrifol iddynt neu eu gofalwr.
Lle nodir rhagnodi gwrthseicotig, y nod yw lleihau'r risg o niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio'r cyffuriau hyn, a gwella canlyniadau i'r person sy'n byw gyda dementia.
Datblygwyd y ddogfen hon gan grŵp cydweithredol aml-broffesiynol yn dilyn cais gan Gangen Fferylliaeth a Rhagnodi Llywodraeth Cymru i ddatblygu protocol i gefnogi'r broses o ragnodi ac adolygu cyffuriau gwrthseicotig priodol ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru, mewn ymateb i Adroddiad Banerjee a Cynllun Gweithredu Dementia Cymru .
Nod y ddogfen hon yw arwain arferion gorau wrth gychwyn; monitro; adolygu; lleihau a stopio cyffuriau gwrthseicotig lle cânt eu rhagnodi ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, sy'n mynegi gofid. Mae hefyd yn rhoi cyngor i gyffredinolwyr ac arbenigwyr ar reoli’r broses o ragnodi cyffuriau gwrthseicotig yn yr hirdymor lle y nodir.
⇩ All Wales protocol for the appropriate prescribing of antipsychotics for people living with dementia (Saesneg yn unig) 1,291KB (PDF) |
(Chwefror 2024)
Mae'r taflenni gwybodaeth hyn i gleifion yn darparu cwestiynau allweddol i gleifion â dementia (neu eu gofalwr) eu gofyn i'w rhagnodwr am feddyginiaethau gwrthseicotig. Maent yn ymdrin ag agweddau gan gynnwys cychwyn triniaeth, sgîl-effeithiau, ac adolygu meddyginiaethau. Cyflwynir y taflenni mewn dau fformat (A a B), pob un â fersiynau Cymraeg a Saesneg. Mae fformat B mewn fformat hawdd ei ddarllen.
(Cyhoeddi taflenni gwybodaeth i gleifion Medi 2024)