Mae rhai oedolion yn cael anhawster llyncu dosau solet a roddir drwy’r geg, megis tabledi a chapsiwlau; felly mae'n rhaid i bresgripsiynwyr weithio gyda'r claf a/neu'r gofalwr(gofalwyr) i fynd i'r afael â'u hanghenion. Mae'r canllaw hwn yn rhoi fframwaith i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn cefnogi eu penderfyniadau presgripsiynu mewn ymateb i'r galw cynyddol, cymhlethdod a chost rhai meddyginiaethau 'arbennig'. Datblygwyd y canllaw hwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'i gymeradwyo gan AWMSG fel enghraifft o arfer da.
Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG. Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Chwefror 2025. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl. Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio a gan fod canllawiau amgen addas eraill ar gael (e.e. Canllawiau NEWT a Phecyn Cymorth Optimeiddio Meddyginiaethau Cartrefi Gofal (AWMSG), roedd aelodau AWPAG o'r farn mai’r peth mwyaf priodol oedd i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd. Os ydych yn credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch ag AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk. |
⇩ Prescribing Medicines for Adults who are Unable to Swallow Oral Solid Dosage Forms - Full document 1.5MB (PDF) (Saesneg yn unig) |
⇩ Prescribing Medicines for Adults who are Unable to Swallow Oral Solid Dosage Forms - Summary document 1.2MB (PDF) (Saesneg yn unig) |
(Awst 2010, Wedi ymddeol Mehefin 2025)